{{trans:35ea3bca4d8fb114937a7e1eec6ecc32_1}} image
Bwriad y Cwrs – I gynnig i’r cyfranogwyr y sgiliau a’r wybodaeth i ddeall sut i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed.

Deilliannau Dysgu -
  • Gwell dealltwriaeth o’r broses a system amddiffyn plant
  • Sut i adnabod yr arwyddion o gamdriniaeth yn y cartref
  • Sut i reoli datganiadau o gamdriniaeth
  • Sut i allu adnabod cydymffurfiaeth cuddiedig mewn rhieni sydd yn cydweithredu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Yr arwyddion o ecsbloetio plant yn rhywiol
  • Sut i adnabod salwch ffug
“Cwrs gwybodus iawn, yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyfeillgar a difyr. Mae profiad helaeth Paul yn amlwg, ac oherwydd ei arbenigedd, roedd yn gallu ein cynghori ar ystod eang o bynciau nad oeddem yn siwr ohonynt. Fe oedd nodiadau’r cwrs yn hynod ddefnyddiol, ac yn enwedig felly wrth roi adborth i gydweithwyr yn yr ysgol. Fel un sydd yn weddol newydd i ddiogelu, fe wyf rwan yn llawer mwy hyderus wrth ddelio gyda datguddiadau a phryderon. Cwrs gwerth chweil – diolch Paul!”
Lucy Kelman, Ysgol Pen y Bryn, Bae Colwyn

“Fe wneuthum Uwch Hyfforddiant Diogelu Plant efo Paul, a theimlais fod yr hyfforddiant yn hynod ddefnyddiol. Fe oedd hefyd yn gyfle rhagorol i gael dealltwriaeth pellach ym maes Diogelu, a gofyn nifer fawr o gwestiynau i Paul, a oedd yn gallu eu hateb oherwydd ei arbenigedd eang. Yn ogystal, fe ddosbarthodd Paul nifer o ddogfennau gwerthfawr yn ymwneud â maes Diogelu. Roedd rhain yn ddefnyddiol iawn.”
Amy Carter. Ysgol Annibynnol Cymru, Bangor
 
Hyfforddiant nesa yn Y Galeri, Caernarfon ar y 9fed o Hydref 2019 – gweler isod i llogi eich lle:
https://www.eventbrite.com/e/uwch-hyfforddiant-diogelu-plant-addysg-advanced-safeguarding-training-y-galeri-caernarfon-091019-tickets-58931360285