Mae Paul Jones yn Weithiwr Cymdeithasol Annibynnol ac mae wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig ers 2005.

Mae Paul wedi ei gofrestru efo Gofal Cymdeithasol Cymru ac hefyd Cymdeithas Brydeinig Gweithiwr Cymdeithasol.

Mae gan Paul brofiad o weithio o fewn cefndiroedd gwasanaethau cymdeithasol amrywiol, megis gwaith cymdeithasol statudol, cymdeithas gwirfoddol ac adrannau addysg.

Mae Paul yn ymarferwr dwyieithog, ac felly, yn gallu cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’n cynnig cefnogaeth arbenigol yn y meysydd canlynol:-

  • Cefnogaeth emosiynol therapiwtig i blant a phobl ifanc sydd wedi dioddef gyda thrawma
  • Gweithio gyda chyflawnwyr trais yn y cartref
  • Cynnig sesiynau arolygiaeth ac ymgynghoriad i ymarferwyr
  • Gweithio gyda phlant mewn gofal a chefnogi rhieni maeth
  • Asesiadau maethu
  • Digwyddiadau hyfforddiant
  • Ymarfer dysgu
Mae Paul Jones yn gyfrifol am hyrwyddo’r rhaglen Caring Dads mewn partneriaeth â Gorwel/Grŵp Cynefin.
{{trans:a82be0f551b8708bc08eb33cd9ded0cf_1}} image